BB 09

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Inquiry into the Blue Badge Scheme in Wales: Eligibility and Implementation

Ymateb gan: Manon Ellis Williams
Response from: Manon Ellis Williams

Fel gweithiwr achos i Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS, hoffwn ymateb ar sail profiadau a barn etholwyr Arfon sydd wedi bod mewn cysylltiad â'n swyddfa dros y 18 mis diwethaf.

1.   Meini prawf cymhwystra am Fathodyn Glas yng Nghymru

 

1.1Mae'r newidiadau i'r meini prawf yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn golygu nad yw rhai sydd wedi gymhwyso ar gyfer Bathodyn Glas o'r blaen yn gallu adnewyddu, sydd yn creu dryswch i bobl, ac mae’r meini prawf fel maent yn sefyll ar hyn o bryd yn gallu eithrio rhai achosion lle byddai bathodyn yn ddefnyddiol i helpu rhywun i gynnal ei annibyniaeth a pheidio â gorfod dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol.

 

1.2Ymhlith yr enghreifftiau o bobl sydd wedi methu yn eu cais am Fathodyn Glas yw:

 

a)    Dyn 84 oed gydag anhawsterau symudedd a cherdded ond sydd ddim bob amser yn gorfod defnyddio ei ffon gerdded. Teimlai nad oedd yr aseswr yn deall y syniad o ddyddiau da a dyddiau gwael a bod y pellter a gerddodd a natur y tir (ee grisiau, allt, tir garw) yn gwneud gwahaniaeth o ran ei benderfyniad i ddefnyddio cymorth cerdded ai peidio. Pan wrthodwyd ei gais i adnewyddu’r bathodyn, teimlai ei fod yn cael ei gosbi am geisio cerdded heb ffon a chynyddu ei annibyniaeth pan oedd yn gallu gwneud hynny.

 

b)    Dyn 75 mlwydd oed gyda dau hernia anferth, a achosir gan lawdriniaeth ar gyfer canser, sy'n ei chael hi'n amhosib i symud i mewn ac allan o'i gerbyd os yw wedi'i barcio mewn man parcio safonol. Teimlai fod yr aseswr wedi meddwl ei fod yn ordew, ac nid hernias mawr oedd ganddo. Mae’r diffyg  ystwythder a'i anallu i droi ei gorff yn golygu ei fod angen i ddrws ei gar fod yn gwbl agored i ddod allan o neu mynd i mewn i'r cerbyd. Yn aml, mae wedi bod yn sownd mewn maes parcio oherwydd na all agor y drws yn ddigon llydan i fynd i mewn i’w gar a bu'n rhaid iddo aros i yrrwr y cerbyd wrth ei ymyl ddychwelyd i'r maes parcio a symud er mwyn iddo gael i mewn i’w gar.

 

c)    Dyn gydag emffysema sydd ddim yn gorfod cario tanc ocsigen gyda e fi bob man ond sydd ag anhawsterau anadlu difrifol. Nid yw’n gallu cerdded yn bell heb golli’i wynt ond ni ystyriwyd bod y cyfyngiad hwn yn ddigon difrifol iddo gael bathodyn. O ganlyniad, mae'n teimlo ei fod wedi colli ei annibyniaeth gan nad yw'n gallu defnyddio cludiant cyhoeddus (mae'n amhosibl iddo gerdded i ac o arosfannau bysiau) ac mae’n gorfod parcio’n bell i ffwrdd o'i gyrchfan, sydd yn ei atal rhag mynd allan mor aml.

 

1.3Dywed ein etholwyr nad yw’r meini prawf cyfredol yn adlewyrchu anghenion pobl sydd ag anawsterau symudedd, anawsterau anadlu, pobl sydd yn ei chael yn anodd iawn i ymdopi â phellteroedd, bryniau a grisiau, a phobl sydd â chyflyrau sydd yn amharu ar eu gallu i symud yn rhwydd, ee i gael i mewn ac allan o’u cerbyd.

 

1.4Mae hawl awtomatig i fathodyn glas i bobl sydd ar fudd-daliadau penodol yn ddefnyddiol ond gyda phroblemau mawr gyda Thaliad Annibynnol Personol (PIP), mae nifer cynyddol o bobl yn gorfod aros dros flwyddyn cyn gael gwrandawiad apêl a phenderfyniad terfynol ar eu ceisiadau PIP ac felly nid ydynt yn gallu cymhwyso'n awtomatig heb oedi sylweddol.

 

1.5Nifer yn teimlo bod angen mwy o hyblygrwydd yn y cynllun er mwyn ymateb i achosion unigol. Dywed bod angen mwy o ddisgresiwn gan swyddogion y Cyngor wrth ystyried a phenderfynu ar geisiadau. Nid yw un maint yn addas i bawb, fel y dywedodd un etholwr.

 

2.   Gweithredu ymarferol y cynllun

 

2.1 Mae etholwyr yn teimlo nad yw'r dystiolaeth feddygol a ddarperir gyda’u ceisiadau am Fathodyn Glas yn cael ei ystyried yn llawn, gyda'r Cyngor lleol yn datgan mewn un llythyr bod angen i “ddogfennau ategol gael eu darparu gan Arbenigwr Gofal Iechyd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal y person (nid meddygon teulu)". Deallaf fod hyn yn yr arweiniad a ddarperir i awdurdodau lleol ond ni all pobl ddeall pam mae barn meddyg teulu, y maent efallai wedi’i adnabod am flynyddoedd, yn cael ei anwybyddu.

 

2.2 Nid yw symud i ffwrdd o ddibynnu ar feddygon teulu i benderfynu ar gymhwyster ar gyfer bathodynnau o reidrwydd yn broblem, ond teimlai nifer fod methiant Cynghorau ac aseswyr i ystyried a pharchu barn meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill - sy'n gwybod am hanes meddygol yr ymgeisydd ac effaith cyflyrau ar eu bywyd bob dydd - yn broblem mawr. Mae pobl yn teimlo bod rhai penderfyniadau bathodynnau glas yn groes i farn feddygol ac yn bychannu eu cyflyrau iechyd ac eu hanawsterau gwirioneddol.

 

2.3 Mae rhai wedi mynegi pryderon ynghylch safon a phrofiad yr aseswyr yn ogsytal â’r broses asesu ei hun. Yng Ngwynedd, mae’r asesiadau wedi’u allanoli i gwmni o Swydd Amwythig o’r enw Able2. Mae yna gwestiynau ynghylch cost-effeithiolrwydd defnyddio cwmni sydd wedi'i leoli y tu allan i Gymru ac mae diffyg darpariaeth yn y Gymraeg hefyd yn cael ei nodi fel broblem.

 

2.4 Mae pobl wedi adrodd nifer o broblemau gyda’r broses asesu, yn cynnwys anawsterau i gael asesiad yn y Gymraeg (rhai’n honni bod rhaid disgwyl am gyfnod hirach os yn gofyn am asesiad yn Gymraeg a bod Able2 wedi cynnig i gyfieithydd fod yn bresennol yn hytrach na darparu asesydd sydd yn siarad Cymraeg), oedi wrth ddisgwyl am asesiad a phenderfyniad terfynol (nid yw pobl yn ymwybodol o unrhyw safonau gwasanaeth sydd yn bodoli, ee y cyfnod disgwyliedig rhwng cyflwyno’r cais a'r penderfyniad terfynol),  a phobl yn teimlo nad yw’r aseswyr yn gymwys i wneud asesiad meddygol ac eu bod yn anwybodus am effaith rhai gyflyrau meddygol ar fywyd pob dydd.

 

2.5 Pryderon ynghylch diffyg cysondeb wrth i aseswyr a Chynghorau dilyn y meini prawf, ee asesydd yn datgan diffyg bresgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth poen cryf fel rheswm dros wrthod cais am fathodyn pan nad oes son yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru am yr angen i ymgeisydd profi eu bod yn cymryd meddigyniaeth poen. Mae rhai o'r farn bod yr hyn y mae'r aseswr yn chwilio amdani yn anghyson yn fwriadol er mwyn gwneud y broses yn fwy anodd a lleihau'r siawns o gael bathodyn.

 

2.6 Nid yw'n ymddangos bod aseswyr yn deall cyflyrau sydd â dyddiau da a dyddiau gwael. Mae'n anodd i ymgeiswyr ddangos effaith eu cyflwr ar ei symudedd ar ddiwrnod gwael os ydynt yn digwydd cael diwrnod da ar ddiwrnod yr asesiad.

 

2.7 Rhai, yn cynnwys mudiadau elusennol, yn adrodd am oedi wrth ddyfarnu ceisiadau gan bobl sydd â diagnosis diwedd oes. Teimlir y dylai diagnosis ynddo'i hun fod yn ddigon i ganiatau bathodyn glas ac na ddylai fod angen profi unrhyw anawsterau eraill, ee pellter y gall y person gerdded.

 

2.8 Mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn gwybod am eraill nad ydynt mor anabl neu sydd ddim wir angen bathodyn glas yn cael bathodyn ac maen nhw'n teimlo mai ‘system’ yn unig yw’r cynllun, gyda rhai yn gwybod sut i chwarae’r system ac eraill yn cael eu gadael ar ôl. Dywedodd un etholwr bod pobl onest yn cael eu cosbi a dim ond y rhai sy'n barod i orddweud sydd yn cael y bathodyn.

 

 

3.   Y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n gwneud cais am fathodyn glas yng Nghymru.

 

3.1Efallai nad yw'r boblogaeth wedi deall y newidiadau i'r meini prawf, yn enwedig y rheini sydd eisoes â bathodynnau glas ac sy’n gwneud cais am adnewyddu. Mae pobl yn teimlo bod y ffurflen gais yn mynd ati i geisio eu dal allan a dylid rhoi mwy o wybodaeth am yr union beth sydd angen ei brofi er mwyn bodloni'r meini prawf llymach.

 

3.2Ychydig o help sydd ar gael i bobl i gwblhau'r ffurflen ac mae mudiadau megis Cyngor Ar Bopeth yn cael trafferth ymdopi â hawliadau budd-dal, heb helpu pobl i wneud ceisiadau am fathodynnau glas hefyd.

 

3.3Nid yw gweithwyr cymdeithasol ac eraill sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwybodol o'r meini prawf cyfredol, y broses ar gyfer gwneud cais a'r posibilrwydd o asesiad wyneb yn wyneb, sy'n ei gwneud hi'n anodd iddynt gynghori eu cleientiaid/cleifion.

 

3.4Mae rhai wedi crybwyll y byddai ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn ddefnyddiol, gyda fideos a deunyddiau eraill i esbonio'r meini prawf a'r broses ceisio am fathodyn, gan fod llawer yn ei chael hi'n anodd i ddarllen taflenni gwybodaeth neu chanllawiau hir. Dywed y byddai ymgyrch wybodaeth o'r fath hefyd yn helpu gyda chanfyddiad y cyhoedd o ddeiliaid bathodynnau glas a gallai arwain at ddealltwriaeth well o'r problemau y mae pobl â chyflyrau meddygol ac anableddau 'anweledig' yn eu hwynebu.